logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Agorwn ddrysau mawl

Agorwn ddrysau mawl
i bresenoldeb Duw;
pan fydd ein calon ni’n y gân
ei galon ef a’n clyw.

Creawdwr nerthoedd byd,
efe, Gynhaliwr bod,
yw’r un a rydd i ninnau nerth
i ganu cân ei glod.

Haelioni llawn y Tad,
pob enaid tlawd a’i gŵyr;
ei dyner air a’i dirion ras
a ddena’n serch yn llwyr.

Mae cenedlaethau’r nef,
pob cenedl a phob gwlad,
a’r cread oll yn chwyddo’r gerdd
o fawl i’r Duw sy’n Dad.

JOHN GWILYM JONES

(Caneuon ffydd: 3)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan