logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Agor di ein llygaid, Arglwydd

Agor di ein llygaid, Arglwydd,
i weld angen mawr y byd,
gweld y gofyn sy’n ein hymyl,
gweld y dioddef draw o hyd:
maddau inni bob dallineb
sydd yn rhwystro grym dy ras,
a’r anghofrwydd sy’n ein llethu
wrth fwynhau ein bywyd bras.

Agor di ein meddwl, Arglwydd,
er mwyn dirnad beth sy’n bod,
gweld beth sy’n achosi cyni
a gofidiau sydd i ddod;
dysg in dderbyn cyfrifoldeb
am ein rhan os ŷm ar fai,
maddau inni os anghofiwn
gyflwr yr anghenus rai.

Agor di ein calon, Arglwydd,
a gwna ni yn gyson-hael,
O perffeithia ein trefniadau
fel y llwyddont yn ddi-ffael:
rhown yn awr ein diolch iti
am y rhoddion ddaw o hyd;
dan dy fendith daw haelioni
a llawenydd i’r holl fyd.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 841)

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016