logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ag arfau’r goleuni

Ag arfau’r goleuni meddianwn y tir,
Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw.
‘Does dim all wrthsefyll, y gelyn a ffy,
Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw.

A chanwn foliant iddo,
Nerthol a grymus yw’n Duw.
Canwn foliant iddo,
Rhown yr anrhydedd i’n Duw.

Pan ddaw lluoedd tywyllwch i’n herbyn fel lli,
Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw.
Fe gododd ei faner, rhoi’ waed drosom ni,
Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw.

Pan mae’r gelyn yn gwasgu, ‘Nac ofnwch’, medd Ef,
Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw.
Fe ddaeth iachawdwriaeth, fy nghyfaill, o’r nef,
Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw.

(Grym Mawl 1: 68)

Jamie Owens-Collins: The battle belongs to the Lord, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © Fairhill Music/Word Music (UK) 1964.

PowerPoint