logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Aeth Pedr ac Ioan un dydd

(Arian ac Aur)

Aeth Pedr ac Ioan un dydd
i’r demel mewn llawn hyder ffydd
i alw ar enw Gwaredwr y byd,
i ddiolch am aberth mor ddrud.

Fe welsant ŵr cloff ar y llawr,
yn wir, ‘roedd ei angen yn fawr;
deisyfodd elusen, rhyw gymorth i’w angen,
a Phedr atebodd fel hyn:

“‘Does gennyf nac arian nac aur,
ond rhywbeth mwy gwerthfawr yn awr:
yn enw Iesu Grist o Nasareth,
saf ar dy draed.”

Aeth dan rodio a neidio a moli Duw,
rhodio a neidio a moli Duw,
“Yn enw Iesu Grist o Nasareth,
saf ar dy draed.”

ANAD. cyf. OLIVE EDWARDS  Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 404)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016