logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Aeth Mair i gofrestru

Mair a’i Baban (Tôn: Roedd yn y wlad honno, 397 Caneuon Ffydd)

Aeth Mair i gofrestru, ynghyd â’i dyweddi,
ag oriau y geni’n nesáu;
roedd hithau mewn dryswch a Bethlem mewn t’wyllwch
a drws lletygarwch ar gau;
gwnaed beudy yn aelwyd ac Iesu a anwyd,
a thrwyddo cyflawnwyd y Gair,
ond llawn o bryderon, r ôl geni’r Mab tirion
i fyd mor afraslon oedd Mair.

Proffwydi fu’n datgan bod gobaith mewn Baban
i ddwyn daear gyfan ynghyd,
ac wedi’i ddyfodiad, caed nefol gyhoeddiad
am ‘r un ddaeth mewn cariad i’r byd;
ond Mair, er ei gwenau, a ofnai’r cystuddiau
a ddeuai i D’wysog y nef;
â Christ iddi’n blentyn, mor anodd oedd derbyn
mae cur gan ei gyd-ddyn ga’i Ef.

Daeth gwreng i ymgrymu a bonedd i dalu
gwrogaeth i Iesu’n y gwair,
ac eco’r addewid a goncrodd y gofid
a fu’n ddigalondid i Mair:
“Mab Duw a genhedli”; O’r fath genadwri!
ei Fab yn dod trwyddi i fyw!
am fraint mor aruchel, ni allai ymochel
rhag diolch yn dawel i Dduw.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2016