logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Aed grym Efengyl Crist

Aed grym Efengyl Crist
yn nerthol drwy bob gwlad,
sain felys i bob clust fo
iachawdwriaeth rad:
O cyfod, Haul Cyfiawnder mawr,
disgleiria’n lân dros ddaear lawr.

Disgleiried dwyfol ras
dros holl derfynau’r byd,
diflanned pechod cas
drwy gyrrau hwn i gyd:
cyduned pob creadur byw
ar nefol dôn i foli Duw.

WILLIAM LEWIS, m.1794

(Caneuon Ffydd 254)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015