logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr

Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr,
mewn parch a chariad yma nawr;
y Tri yn Un a’r Un yn Dri
yw’r Arglwydd a addolwn ni.

Mae ganddo i’n gwasanaeth hawl,
a gweddus inni ganu mawl;
down ger ei fron a llafar gân,
rhown iddo glod o galon lân.

Ei orsedd sydd yn nef y nef,
sanctaidd a chyfiawn ydyw ef;
i ddig y mae’n hwyrfrydig iawn,
fe rydd o’i ras drugaredd lawn.

Y mae’i weithredoedd ef bob un
yn ei glodfori yn gytûn;
ei fawr gadernid draethant hwy,
a’i enw a folwn ninnau mwy.

Mawr yw a chanmoladwy iawn,
cyduno i’w ddyrchafu wnawn;
bendithiwn byth ei enw ef,
a chaiff y mawl holl ddyddiau’r nef.

GWYLLT Y MYNYDD (William Hugh Evans), 1831-1909

(Caneuon Ffydd 14)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015