logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Addfwynaf Frenin

Addfwynaf Frenin,
dynol a dwyfol Un,
rhyfeddod nef ei hun
yn ddyn ac yn Dduw:
tragwyddol Air y nef,
Crëwr yn gnawd yw ef,
yma yn plygu lawr
a golchi ein traed.

O’r fath ddirgelwch,
cariad nid oes ei uwch,
plygwch, addolwch,
cans hwn yw eich Duw,
hwn yw eich Duw.

Ef sydd yn haeddu’r clod,
perffaith, dibechod;
dysgodd ufudd-dod
a marw ar groes:
dioddefodd drosom ni,
concrodd drwy aberth drud,
wrth iddo ddiodde’n fud
maddeuodd fy mai.

Doethineb Duw ei hun,
gobaith colledig ddyn,
cariad diderfyn
ddatguddiwyd yng Nghrist;
gwelwch ein Harglwydd cu’n
plygu yn dyner
i godi ein dyndod ni
i entrych y nef.

GRAHAM KENDRICK (Meekness and majesty) cyf. ARFON JONES
Hawlfraint© 1986 Kingsway’s Thankyou Music.
26-28 Lottbridge Drove, Eastbourne,  East Sussex, BN23 6NT,
Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
 
(Caneuon Ffydd 429, Grym Mawl 1: 118) 
 
PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015