logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Achubwr

Daethost, Arglwydd mewn i’m mywyd a’m hachub i,
Tynnaist f’enaid o’r tywyllwch mewn i’th olau di,
Dioddef cosb wnest yn fy lle,
Agor ffordd im fynd i’r ne’,
Nawr rwy’n sefyll yma’n gyfiawn drwy dy aberth di.

Iesu, fy Ngwaredwr.
Ffrind pechadur, prynwr,
Fy Arglwydd a’m achubwr,
Ti yw fy mrenin a’m Duw.

Arglwydd, beth all un fel fi ei roi i un fel ti?
Does dim byd a all gymharu nawr â’th gariad di,
Marw wnaethost cheap ar y groes,
Saif dy gariad drwy bob oes,
Rhoddaf i fy mywyd oll yn aberth nôl i ti.

Glesni Evans

Gwreiddiol © 2010 Glesni Evans

PowerPoint Cordiau Gitar
  • Gwenda Jenkins,
  • June 26, 2015