logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Achubodd fi

Achubodd fi – clywodd Ef fy nghri,
A’m rhoi ar Graig sydd yn uwch na mi;
A rhoddodd gân yn fy nghalon i.
Haleliwia! Achubodd fi.

Llawenydd pur sy’n gorlifo
A heddwch dwfn sy’n ddi-drai.
Caf rannu ei gyfiawnder Ef –
Maddeuodd Ef fy mai.

Daw breichiau’r Tad i’m cofleidio,
Daw’r Ysbryd Glân i’m bywhau.
Nid ofnaf ddim condemniad mwy –
Mae E’n fy sicrhau.

I Iesu Grist bo’r gogoniant –
Gwaredodd fi trwy ei groes.
Fe all y cariad brynodd fi
Fy nghadw drwy fy oes.

(Grym Mawl 2: 42)

Geoff Baker: He rescued me, Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones
© 1995 Sovreign Music UK

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 12, 2015