logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

A yw f’enw i lawr? (O nid golud a geisiaf)

O, nid golud a geisiaf
Ar y ddaear, fy Nuw,
Ond cael sicrwydd yr haeddaf
Ddod i’r nefoedd i fyw.
Yng nghofnodion dy deyrnas,
Ar y ddalen wen fawr,
Dywed Iesu, fy Ngheidwad,
A yw f’enw i lawr?

A yw f’enw i lawr
Ar y ddalen wen fawr?
Yng nghofnodion dy deyrnas,
A yw f’enw i lawr?

Mae rhifedi fy meiau
Megis tywod y lli;
Ond mi wn, O! fy Ngheidwad,
Mor drugarog wyt Ti.
Dianwadal, rwy’n gwybod
Yw’r addewid a gaed
Ac er dued ein gwisgoedd,
Ânt yn wyn yn ei waed.

O mae’r ddinas mor brydferth
A’i thrigfannau mor gain,
O, mae’r gynau mor gannaid,
Gogoneddus yw’r rhain.
Lle mae popeth yn sanctaidd,
Lle mae purdeb mor fawr,
Lle mae’r engyl yn gwylio –
A yw f’enw i lawr?

J. T. Jones, Porthmadog © Dafydd F. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016