logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

A wyt ti’n un i fentro

A wyt ti’n un i fentro
y cyfan oll i gyd?
A fentret ti dy enaid
i rywun yn y byd?
Fe fentrais i fy enaid
i Dduw y byd a’r nef,
a mentrais dragwyddoldeb
ar ei addewid ef.
A fentri di y cyfan oll
ar gariad Duw a’i air di-goll?

A wyt ti’n un i herio
pob rhwystyr ar dy daith?
A heriet ti farwolaeth
i fethu gwneud ei gwaith?
Fe heriodd Grist farwolaeth
un p’nawn ar Galfarî,
a daeth ei fuddugoliaeth
yn eiddo nawr i ni.
Dderbynni dithau her Mab Duw
i godi’r groes a dechrau byw?

A wyt ti’n un i amau
pob stori ddaw i’th glyw?
A allet tithau gredu
fod Iesu eto’n fyw?
Bûm innau’n amau hefyd
nes gwelais rym ei waith
yn achub yma heddiw
fel drwy’r canrifoedd maith.
A weli di fod Crist y groes
yn Grist y gobaith ymhob oes?

A wyt ti’n dal i ofni
er gweled hyn i gyd
na allai Duw y nefoedd
byth faddau pechod byd?
Fe ofnais innau hynny,
ond deil yr Iesu byw
i alw ac i dderbyn
rhai’n ôl i deulu Duw.
Tyrd dithau’n ôl heb oedi mwy
i rannu o’u llawenydd hwy.

SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)

(Caneuon Ffydd 803)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015