logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr

(CAROL GŴR Y LLETY)

A welaist ti’r ddau a ddaeth  gyda’r hwyr
o Nasareth draw, wedi blino’n llwyr?
Bu raid imi ddweud bod y llety’n llawn
a chlywais hwy’n sibrwd, “Pa beth a wnawn?”

A wyt yn fy meio am droi y ddau
i lety’r anifail a hi’n hwyrhau?
‘Roedd yr awel neithiwr yn finiog oer
a llithrai dieithrwch dros wedd y lloer.

A glywaist ti ganu ynghanol nos
a miwsig fel clychau draw ar y rhos?
Dychmygais unwaith fod rhywrai’n dod
i strydoedd Effrata i ganu clod.

A weli di olau draw ar y bryn
a hwnnw yn ddisglair fel eira gwyn?
Mae’n gwawrio’n araf ym Methlehem dref
a’r dydd newydd-eni yn gloywi’r nef.

A deimli di heddiw fod rhyfedd wyrth
yn datod y cloeon, yn agor pyrth?
O tyred, O tyred, heb oedi mwy,
i lety’r anifail i’w gweled hwy.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 470)

PowerPoint
Gwrando

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016