logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

A fynno ddewrder gwir

A fynno ddewrder gwir,
O deued yma;
mae un a ddeil ei dir
ar law a hindda:
ni all temtasiwn gref
ei ddigalonni ef
i ado llwybrau’r nef,
y gwir bererin.

Ei galon ni bydd drom
wrth air gwŷr ofnus,
ond caiff ei boenwyr siom,
cryfha’i ewyllys:
ni all y rhiwiau serth
na rhwystrau ddwyn ei nerth,
fe ddyry brawf o’i werth
fel gwir bererin.

‘Does allu yn un man
i ladd ei ysbryd,
fe ŵyr y daw i’w ran
dragwyddol fywyd:
diysgog yw ei ffydd,
a rhag pob ofn yn rhydd
ymlaen ‘r â nos a dydd
fel gwir bererin.

JOHN BUNYAN, 1628-88 cyf O. M. LLOYD, 1910-80 © Gwyn M. Lloyd Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 776)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016