logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Moliannwn ein Tad yn y nefoedd

Moliannwn ein Tad yn y nefoedd,
cynlluniwr y cread i gyd,
Creawdwr y sêr a’u niferoedd,
Cynhaliwr holl fywyd y byd;
ei enw sydd fawr drwy’r nefoedd a’r llawr,
ymuned plant dynion i’w foli yn awr.

Mawrygwn y Mab, ein Gwaredwr
a ddaeth yn y cnawd atom ni,
a rodiodd yn isel ei gyflwr
a marw ar groes Calfarî;
rhown fawl iddo ef yn uchel ein llef
am ddwyn i ni ddynion ymwared o’r nef.

Clodforwn yr Ysbryd tragwyddol
a roddwyd o’r nef i’n bywhau,
gan rannu’r egnïon anfeidrol
sydd heddiw a byth yn parhau;
doed pawb o un fryd i ganmol ynghyd
yr Ysbryd sy’n gweithio drwy’r Eglwys a’r byd.

Gogoniant i’r Drindod fendigaid,
tragwyddol gymdeithas ein Duw,
y sanctaidd na welir â llygaid,
y cariad achubol a byw;
ymuned pob un mewn mawl yn gytûn
i’r Drindod sy’n Undod o’i hanfod ei hun.

GWILYM R. TILSLEY, 1911-97 © Gareth M. Tilsley

(Caneuon Ffydd: 48)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan